CYFLWYNIAD

 

1.        Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol y wlad ac mae awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol a’r tri gwasanaeth tân ac achub yn aelodau cyswllt.

 

2.        Mae’n ceisio cynrychioli awdurdodau lleol yn ôl fframwaith polisïau sy’n cyd-fynd â’u blaenoriaethau.  Ar ben hynny, mae’n cynnig amrywiaeth helaeth o wasanaethau sy’n ychwanegu gwerth at faes llywodraeth leol a’r cymunedau mae’n eu cynnal.

 

3.        Mae WLGA yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sylwadau i ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, yr Isadeiledd a Medrau ynglŷn â bargeinion dinesig ac economïau rhanbarthau Cymru.  Dyma sylwadau am bob mater o dan sylw:

Y sefyllfa bresennol o ran y Bargeinion Dinesig sydd eisoes wedi'u llofnodi ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe a'r camau nesaf sydd ar y gweill i'w datblygu.

4.        Ynglŷn â bargeinion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Bae Abertawe, mae pawb wedi cytuno ar gynlluniau gweithredu ar gyfer datblygu economïau’r ddau ranbarth.  Un o gonglfeini’r cynllun yn y de-ddwyrain yw rheilffordd y Metro.  Yn y de-orllewin, bydd llawer o sylw ar yr isadeiledd digidol.

5.        Mae trefniadau llywodraethu’r de-ddwyrain yn cynnwys cabinet ac ynddo arweinyddion deg awdurdod lleol y rhanbarth.  Mae’r cabinet yn meithrin cysylltiadau â sectorau eraill i ddibenion cydweithredu.  Yn yr un modd, mae cydbwyllgor y de-orllewin yn cynnwys y pedwar arweinydd ynghyd ag amryw ymgynghorwyr sectorau a phartneriaid eraill.  Yn y ddau ranbarth, mae’r awdurdodau lleol wedi rhoi sêl eu bendith ar adroddiad manwl sy’n amlinellu eu cynigion ynglŷn â’u bargeinion.

6.        Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn defnyddio fframwaith diogelu ansawdd unrhyw brosiectau sydd i’w hariannu ar ôl talu am reilffordd y Metro, a hynny yn ôl meini prawf y cytunwyd arnynt, i ofalu y byddan nhw’n cyd-fynd ag amcanion datblygu rhanbarthol o safbwynt cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.  Mae yng nghais Bae Abertawe 11 prosiect o’r fath.

7.        Bydd yn hanfodol i’r ddau ranbarth ddenu arian ychwanegol o’r sector preifat.  Yn sgîl derbyn £1.2 biliwn, bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gwahodd cwmnïau preifat i fuddsoddi £4 biliwn dros 15-20 mlynedd.  Mae Bargen Bae Abertawe yn ymwneud â buddsoddi tua £1.3 biliwn dros 15 mlynedd, gan gynnwys £673 miliwn o’r sector preifat. Y bwriad yw y bydd prosiectau’n denu rhagor o arian preifat dros y blynyddoedd nesaf.

Yr effaith y bwriedir i'r Bargeinion Dinesig ei chael a'r dulliau ar gyfer llywodraethu, ariannu a monitro hyn.

8.        Diben bargeinion y ddwy ddinas yw sbarduno cyfleoedd economaidd.  Bydd y Metro yn arwain at gyfleoedd i godi tai, agor unedau busnes a sefydlu trefniadau masnachol o gwmpas prif orsafoedd y rhwydwaith newydd.  Gan y gallai pob un o’r rheiny godi tipyn o incwm, dylai fod modd denu buddsoddwyr preifat a chreu swyddi.  Gall y cyfan hwyluso datblygu cytbwys ledled y rhanbarth gan leddfu pwysau ar fröydd arfordirol a helpu i gynnal cymunedau yn y rhan ogleddol tua Blaenau’r Cymoedd.  Mae gobaith y bydd 25,000 o swyddi newydd o ganlyniad.

9.        Amcan Partneriaeth Bae Abertawe yw creu bron 10,000 o swyddi trwy ddatblygu a masnacheiddio atebion i rai o’r problemau mwyaf ym meysydd gwyddorau bywyd, ynni, gwneuthur nwyddau’n graff a rhwydweithiau digidol yn y trefi a chefn gwlad.

10.     Llywodraeth San Steffan fydd yn cyfrannu’r rhan fwyaf o’r arian er y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi rhywfaint, hefyd.  Bydd yr awdurdodau lleol yn cael codi arian i’r diben hwn trwy fenthyciadau[1].  Y cabinet rhanbarthol a’r cydbwyllgor (gweler paragraff 5 uchod) fydd yn bennaf cyfrifol am y llywodraethu a’r monitro.  Byddan nhw’n arwain ac yn goruchwylio’r cyfan.  Bydd uwch swyddogion yr awdurdodau lleol[2] yn cyflwyno adroddiadau iddyn nhw er atebolrwydd fel y bydd gweithdrefnau agored a thryloyw.  Bydd rhaid i bob rhanbarth gyflwyno adroddiadau monitro i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru, hefyd.  Fydd y ddwy lywodraeth ddim yn rhyddhau arian cyn rhoi sêl bendith ar fframweithiau sicrhad a chynlluniau gweithredu.  Bydd gwaith sy’n mynd rhagddo yn helpu pob awdurdod lleol i baratoi cynllun yn ôl gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Bydd hynny’n arwain at ragor o fonitro ac, o safbwynt bod yn atebol, fe fydd yn galluogi trigolion pob ardal i weld sut mae’r bargeinion dinesig yn cydblethu â gweithgareddau lleol eraill er eu lles nhw.

 

Y manteision a allai godi o Fargen Dwf bosibl ar gyfer gogledd Cymru

11.     Byddai arian yn sgîl cais llwyddiannus er twf yn sbarduno economi’r gogledd yn yr un modd.  Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd y Gogledd wedi cyflawni gwaith sylweddol eisoes gan gynnwys gwaith ar y cyd â Chynghrair Merswy a Dyfrdwy a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer sy’n paratoi cais am ddatganoli i Lywodraeth San Steffan ar ôl dwy gyfres o ariannu trwy Gronfa Twf Lleol Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol San Steffan.  Ar ben hynny, mae cysylltiadau â rhwydwaith Pwerdy Gogledd Lloegr ar ôl i Lywodraeth San Steffan wahodd siroedd y gogledd i gyflwyno cais fyddai’n gwella cysylltiadau o’r fath, gan gynnwys datganoli rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru (yn ogystal â rhai o San Steffan) i’r rhanbarth.

12.     Lluniwyd ‘Delfryd ar gyfer Twf Economi’r Gogledd’[3] yn hydref 2016 yn fan cychwyn i’r trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru am arian i ddibenion twf economaidd y rhanbarth, ynghyd ag unrhyw ffynonellau a buddsoddiadau eraill sydd wedi’u nodi yn Undeb Ewrop, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat.  O ganlyniad, mae siroedd y gogledd wedi’u gwahodd i droi’r strategaeth yn gais ar gyfer buddsoddi arian a gofyn i Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru roi rhagor o bwerau.

13.     Mae’r ddogfen yn disgrifio uchelgais y gogledd o ran datblygu’r isadeiledd, meithrin medrau, creu swyddi a datblygu masnach.  Y bwriad yw mai £20 biliwn fydd gwerth economi’r gogledd erbyn 2035, o’i gymharu â £12.8 biliwn ar hyn o bryd, ac y bydd llawer o swyddi newydd.  Diben camau arfaethedig y ddogfen yw cynyddu’r gwerth ychwanegol crynswth yn ôl y pen a gwella cyflogau o’u cymharu ag ardaloedd eraill.

14.     Mae’r ddogfen wedi’i llunio ar y cyd â phartneriaid o sectorau eraill.  Mae pob un o chwe awdurdod lleol y gogledd wedi’i harddel yn swyddogol a chytuno i gydweithio i gyflawni ei nodau.  Bellach, maen nhw’n trafod sefydlu cydbwyllgor a fyddai’n pennu cynnwys y cais ac yn llywodraethu trefniadau’n briodol.

 

15.     Mae’r ddogfen wedi’i hategu gan brosbectws Cynghrair Merswy Dyfrdwy, ‘Datgloi’r Posibiliadau’, sy’n sôn am drefniadau trawsffiniol a fydd yn rhan o geisiadau Swydd Gaer a Lerpwl yn ogystal ag un y gogledd.

16.     Mae ffyrdd, rheilffyrdd a chysylltiadau da – ynghyd a ffordd gyfun o gynllunio ar gyfer cludiant – wrth wraidd delfryd y gogledd.  Mae nifer o bartneriaid wedi cynnig y gallai Metro yn y gogledd-ddwyrain helpu i ymdopi â’r galw ychwanegol am gludiant yn sgîl creu rhagor o swyddi ar Lannau Merswy a Dyfrdwy.  Mae ynni a gwneuthur nwyddau cymhleth[4] wedi’u nodi’n sectorau economaidd pwysig mewn unrhyw gais.  Mae atomfa newydd yr Wylfa yn berthnasol iawn hefyd am y gallai greu llawer o swyddi a llawer o alw am gludiant yn y gogledd-orllewin.

17.     Bydd cais y gogledd yn cynnwys camau cynnal marchnadoedd tai a thir hefyd, trwy ofyn am arian sbarduno datblygu a fydd yn denu rhagor o arian i’w fuddsoddi mewn tai a thir wedyn.

 

18.     Bydd cynigion i wella medrau, helpu arloeswyr a datblygu cwmnïau bychain a chanolig eu maint.  Bydd ymdrech i gydweithio er lles y gogledd gan gyfuno rhai o adnoddau’r awdurdodau lleol ym meysydd datblygu economaidd a chludiant.  Gallai fod modd eu gweinyddu gydag adnoddau tebyg Llywodraeth Cymru.  Prif ganlyniad unrhyw newid strwythurol arfaethedig sydd i’w ariannu trwy gronfeydd datblygu arbenigol yw y bydd datblygu economaidd a’r cynllunio ar gyfer defnyddio cludiant a thir yn fwy ymatebol i anghenion economi’r rhanbarth.

 

19.     Bydd yn bwysig ystyried ardaloedd gwledig y gogledd hefyd, i ofalu na fyddan nhw’n cael eu hanwybyddu ac y bydd modd iddyn nhw elwa trwy gynlluniau rhanbarthol.  Bydd arian o dan reolaeth y rhanbarth i ddatblygu tir ar gyfer swyddi yno, ynghyd â chreu cynifer o swyddi lleol ag y bo modd trwy atomfa newydd yr Wylfa, parhau i ddatblygu Porthladd Caergybi a rhoi hwb i sectorau ynni a’r diwydiannau creadigol (sy’n ffynnu yng nghyffiniau Caernarfon a Bangor) yn hanfodol i’r amcan hwn.  Mae disgwyl y bydd rhagor o bobl yn y gogledd-orllewin yn gallu teithio i safleoedd mawr swyddi yn y gogledd-ddwyrain o ganlyniad i wella isadeiledd cludiant y rhanbarth a meithrin medrau, hefyd.


 

I ba raddau y gallai bargen dwf debyg fod o fudd i ganolbarth Cymru?

 

20.     Mae Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth wedi llunio ‘Fframwaith Gweithredu’ [5].  Mae wedi meithrin cysylltiadau â Phartneriaeth Menter Leol y Gororau, hefyd.

21.     Byddai’n rhesymegol pe bai’r canolbarth yn cyflwyno cais er twf yr un fath â phob un o ranbarthau eraill Cymru fel y byddai cysondeb ynglŷn â chynnig cymorth ariannol a dirprwyo pwerau i’r rhanbarthau.  Byddai hynny’n bwysig iawn mewn trafodaethau am bolisïau rhanbarthol y dyfodol a diwygio maes llywodraeth leol.  Yn ôl WLGA, fe fyddai bargeinion rhanbarthol yn well na gofyn statudol i gydweithio ac mae hyn yn cyd-fynd ag un o gynigion ei maniffesto, sef dyletswydd i awdurdodau lleol ddatblygu’r economi ar y cyd â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill.  Byddai eisiau digon o adnoddau ar gyfer dyletswydd o’r fath a dylai fod modd ei chyflawni’n rhanbarthol, hefyd.

I ba raddau y gallai'r bargeinion twf a dinesig ddatrys neu waethygu anghydraddoldebau presennol, mewn rhanbarthau a rhyngddynt?

22.     Mae’n bwysig cofio bod bargeinion dinesig a cheisiadau er twf yn adlewyrchu amryw ymdrechion y rhanbarthau i ddod o hyd i ffynonellau arian ar gyfer datblygu’r economi yn rhan o gynlluniau ehangach.  Bydd sawl ffynhonnell arian arall yn ymwneud â phob cynllun o’r fath.  Mae ‘twf cynhwysol’[6] yn syniad allweddol yn hyn o beth ac mae rhaid i gynlluniau gynnwys agweddau cymdeithasol ac amgylcheddol y gwella rhanbarthol.  Un o’r prif nodau fyddai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.  Yn wir, mae gofyn yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ofalu bod datblygu’n hwyluso cydraddoldeb.

23.     Felly, dylai pob prosiect sy’n mynd rhagddo o dan nawdd bargen ddinasol neu ariannu er twf gymryd anghydraddoldeb o fewn rhanbarthau i ystyriaeth.  Lle bo modd, dylai pob prosiect helpu i’w leddfu trwy ddulliau megis buddion cymunedau mewn cytundeb a chysylltiadau ardaloedd difreintiedig â chyfleoedd mewn meysydd megis medrau a thechnoleg gwybodaeth.  Nid dyna’r unig ffordd o leddfu anghydraddoldeb, wrth gwrs.  Dylai fod gweithgareddau eraill hefyd, trwy nawdd ffynonellau arian eraill.

24.     Mae’r un ystyriaeth yn berthnasol i anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau.  Fe fydd yn hanfodol gydlynu gwaith y pedwar rhanbarth.  Er ei bod yn anochel y bydd rhywfaint o gystadlu am fuddsoddwyr ymhlith y rhanbarthau, dylai fod modd iddyn nhw weithio ar y cyd er lles Cymru gyfan, hefyd.  I’r perwyl hwnnw, fe ddylai pob rhanbarth ddeall blaenoriaethau’r rhanbarthau eraill a bod yn aeddfed o ran buddsoddi arian yn raddol.

I ba raddau y mae’r bargeinion twf a dinesig yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth Cymru?

25.     Yn ddiweddar, trefnodd WLGA i swyddogion rhanbarthol a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru gwrdd.  Cytunwyd y byddai angen rhagor o gyfarfodydd o’r fath ac y dylai fod modd i wleidyddion cyfatebol gwrdd hefyd, trwy gyfrwng Cyngor y Bartneriaeth neu’r Cyngor dros Adnewyddu Economaidd.  Hoffen ni drefnu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru a’r pedwar rhanbarth gwrdd eto trwy Fwrdd yr Adlinio Rhanbarthol i bennu’r ffordd orau o ofalu bod mentrau gwladol a gweithgareddau rhanbarthol yn cydblethu.

26.         Bydd yn hanfodol i gynlluniau rhanbarthol a strategaethau gwladol gydblethu, hefyd.  Dylid eu paratoi ar y cyd fel y byddan nhw’n gyson heb eu cyfarwyddo o’r bôn i’r brig nac o’r brig i’r bôn.  Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n paratoi pedair strategaeth bwysig ac mae angen rhoi cyfle i’r awdurdodau lleol gyflwyno sylwadau cyn eu cyhoeddi.  Dim ond trwy gyfathrebu ac ymgysylltu’n agored y bydd modd cydlynu popeth yn briodol.

27.         Fe fydd yn bwysig i’r rhanbarthau a Llywodraeth Cymru ddeall sut mae’u cynlluniau’n effeithio ar waith ei gilydd.  Rydyn ni’n croesawu ffordd newydd Llywodraeth Cymru o drin a thrafod datblygu economaidd ar ôl i Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, gydnabod bod angen newid trefniadau datblygu economaidd Llywodraeth Cymru a chydweithio’n agosach â’r rhanbarthau.  Edrychwn ni ymlaen at gydweithio ag e a’i swyddogion i’r diben hwnnw.

28.         Edrychwn ni ymlaen at gydweithio ag ysgrifenyddion, gweinidogion ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru hefyd, i ofalu y byddan nhw’n cadw anghenion rhanbarthau mewn cof wrth roi mentrau gwladol ar waith.  Bydd rhaid i’r pedwar rhanbarth a Llywodraeth Cymru gydweithio’n agos ag adrannau Llywodraeth San Steffan i ofalu y bydd Cymru yn cael manteisio i’r eithaf ar fentrau gwladol megis y rhai ar gyfer ymchwil, datblygu, arloesi a chynhyrchu.

 

 

 



[1] Yn achos Caerdydd, £500 miliwn o Lywodraeth San Steffan, £120 miliwn trwy fenthyciadau awdurdodau lleol, £503 miliwn o Lywodraeth Cymru a £106 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop = £1.229 biliwn.  Bydd £734 miliwn ar gyfer y Metro (£375 miliwn o gyfraniad Llywodraeth Cymru, £503 miliwn o Lywodraeth Cymru a £106 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop).

Fe gaiff Abertawe £1.3biliwn: £241 miliwn o Lywodraeth San Steffan/Llywodraeth Cymru ynghyd â £360 miliwn o rannau eraill o’r sector gwladol a £673 miliwn o’r sector preifat.

[2] Mae swyddfa wedi’i sefydlu ar gyfer rhaglenni Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac mae bwriad i sefydlu un yn y gogledd, hefyd.

[3] http://wcnwchamber.org.uk/wp-content/uploads/2016-08-Vision-for-North-Wales-Economy-FINAL-VERSION.pdf

[4] Mae’r ddogfen yn nodi’r meysydd canlynol: awyrennau, ceir, pecynnu, atomfeydd, deunyddiau cymhleth, bwyd a diodydd a gwyddorau meddygol.

[5] https://www.growinpowys.com/grow-in-mid-wales

[6] https://www.thersa.org/discover/publications-and-articles/reports/final-report-of-the-inclusive-growth-commission - diffiniad: ‘galluogi cynifer o bobl ag y bo modd i gyfrannu at y twf ac elwa arno’.